Cofnodion - Y Pwyllgor Busnes


Lleoliad:

Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel

Dyddiad: Dydd Mawrth, 11 Tachwedd 2025

Amser: 08.57 - 09.10
 


Preifat, Hybrid

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Pwyllgor:

Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd)

Paul Davies AS

Heledd Fychan AS

Jane Hutt AS

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Steffan Lewis (Dirprwy Glerc)

Eraill yn bresennol

David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Julian Luke, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd

Marc Wyn Jones, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth

Helen Carey, Llywodraeth Cymru

 

<AI1>

1       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds AS.

</AI1>

<AI2>

2       Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

</AI2>

<AI3>

3       Trefn Busnes

</AI3>

<AI4>

3.1   Busnes yr wythnos hon

Dydd Mawrth 

 

Dydd Mercher

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.00pm.

 

</AI4>

<AI5>

3.2   Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 18 Tachwedd 2025

 

Dydd Mawrth 25 Tachwedd 2025

</AI5>

<AI6>

3.3   Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf - wedi’i diwygio

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mercher 19 Tachwedd 2025 -

Dydd Mercher 26 Tachwedd 2025 -

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu dadl ar ddeiseb P-05-1456: Ymchwiliad cyhoeddus llawn i gau canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru yng nghanolbarth a gogledd Cymru, oedd wedi cael ei oedi oherwydd achosion adolygiad barnwrol.

</AI6>

<AI7>

3.4   Dadleuon Agored: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Trafododd y Pwyllgor Busnes y pynciau a gynigiwyd a chytunodd i amserlennu’r pwnc canlynol ar 19 Tachwedd 2025:

 

Julie Morgan: NNDM9046 A fyddai treth gyfoeth yn gweithio i Gymru?

 

Nododd y Rheolwyr Busnes y byddai'r ddadl hon yn nodi diwedd y treial y cytunwyd arno ac mae'n debygol mai dyma'r Ddadl Agored olaf i'w threfnu yn ystod tymor y Senedd hwn.

 

Yn dilyn yr adolygiad interim a gynhaliwyd ar 23 Medi, nododd y Rheolwyr Busnes nad oeddent yn bwriadu cynnal adolygiad pellach o'r fformat ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gadw Dadleuon Agored yn eu fformat presennol o fewn y canllawiau perthnasol i'w defnyddio o bosibl mewn tymhorau Senedd yn y dyfodol, yn ôl disgresiwn Pwyllgorau Busnes yn y dyfodol.

</AI7>

<AI8>

4       Deddfwriaeth

</AI8>

<AI9>

4.1   Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Trafododd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf gan y Trefnydd a chytunodd i wneud yr hyn a ganlyn:

·         Cyfeirio'r Memorandwm Atodol (Rhif 2) ar y Bil Dioddefwyr a Llysoedd at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 16 Ionawr 2026.

</AI9>

<AI10>

5       Unrhyw Fater Arall

Nododd y Rheolwyr Busnes fod y Canllawiau ar Drafodion Rhithwir a Hybrid wedi’u hailgyhoeddi yr wythnos diwethaf a’u dosbarthu i bob Aelod, yn dilyn cytundeb y Senedd ar newidiadau i Reol Sefydlog 17 ynghylch pleidleisio mewn pwyllgorau.

 

Felly, mae'r diwygiadau y cytunwyd arnynt yn flaenorol gan y Pwyllgor Busnes – gan gynnwys disgwyliadau mewn perthynas â chyfranogiad wyneb yn wyneb gan Aelodau mewn trafodion cyfnodau diwygio ar ddeddfwriaeth – bellach mewn grym.

 

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>